Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
23 Mehefin 2025
SL(6)618 – Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2025
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o fenthyciad ar gostau byw (a elwir hefyd yn fenthyciad cynhaliaeth) myfyriwr israddedig llawnamser ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 o dan amgylchiadau penodol.
Bydd y dilead yn dod i rym o’r diwrnod ar ôl y dyddiad y derbynnir ad-daliad benthyciad cyntaf y myfyriwr. Ni fydd hyn ar ffurf cyfandaliad arian parod; yn hytrach, bydd balans benthyciad unigolyn yn cael ei ostwng yn ôl y swm priodol y diwrnod ar ôl i ad-daliad cyntaf y benthyciwr gael ei wneud.
Dim ond unwaith y gall myfyriwr gael dilead rhannol; ni all gael dilead rhannol mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2025/26 os yw eisoes wedi cael dilead mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol. Ni fydd gan fyfyriwr hawl i gael dilead rhannol os oes unrhyw gosbau neu daliadau heb eu talu neu os yw’n torri cytundeb ei fenthyciad neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998
Fe’u gwnaed ar: 03 Mehefin 2025
Fe’u gosodwyd ar: 05 Mehefin 2025
Yn dod i rym ar: 01 Awst 2025
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
23 Mehefin 2025
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlenni 8, 8A a 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”).
Mae adran 79 a pharagraff 6 o atodlen 9 i Ddeddf 2000 yn gosod terfynau gwariant ymgyrch ar gyfer pleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol ac sy’n ymladd etholiad cyffredinol y Senedd. O ganlyniad i ddiwygio’r Senedd, nid yw’r terfynau bellach yn gweithredu fel y bwriadwyd ac mae’r rheoliadau hyn yn diwygio atodlen 9 i’w hamrywio. Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cydsynio i'r gwelliant hwnnw. Mae adran 72 ac atodlen 8 yn nodi pa fathau o dreuliau y dylid eu hystyried yn dreuliau ymgyrch, ac felly'n ddarostyngedig i’r terfyn, a pha fathau o dreuliau na ddylid eu hystyried. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio atodlen 9 i ddarparu nad yw treuliau sy'n gysylltiedig â diogelwch yn ddarostyngedig i’r terfyn. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn argymell y gwelliant hwn.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 04 Gorffennaf 2025